• Archwiliad
  • Llyfrgell yr Archwiliad
  • Sesiynau Gwrandawiad
  • Ionawr 2012
  • Sesiynau Gwrandawiad
  • Mai 2012
  • Sesiynau Gwrandawiad
  • Ionawr Chwefror 2013
  • Newidiadau Materion yn Codi
  • Sut i Gyrraedd Yma
  • Green Arrow Cynllun Datblygu Lleol - Archwiliad Cyhoeddus

    Filler Graphic

    16eg Mai 2013 – Adroddiad yr Arolygwyr

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn Adroddiad Terfynol yr Arolygwyr yn dilyn dod ar Archwiliad y Cynllun Datblygu Lleol i ben. Bydd yr Adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 4ydd Mehefin 2013.

    Adroddiad yr Arolygwyr

     

     

    Ebrill 29ain 2013 - ARHOLIAD

    Mae'r Archwiliad mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych (CDLl) bellach wedi dod i ben yn ffurfiol.

     

    Arolygydd wedi ei benodi

    Penodwyd yr Arolygydd Cynllunio Mr Anthony Thickett BA(Anhr) BTP MRTPI, i ymgymryd â’r Archwiliad i benderfynu os yw’r Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn ai peidio. Ei rôl fydd ystyried yr holl dystiolaeth a chyflwyno adroddiad i’r Cyngor yn rhoi ei argymhellion ar gamau sydd angen eu cymryd. Bydd ei adroddiad yn rhwymedig ar y Cyngor. Caiff yr Arolygydd ei gynorthwyo gan Gwynedd Thomas BA(Anhr) DMS MRTPI, o Arolygiaeth Gynllunio Cymru.

     

    Swyddog Rhaglen

    Caiff y broses Archwilio ei gweinyddu gan y Swyddog Rhaglen, Elaine Rizzi a fydd yn gweithio’n annibynnol i’r Cyngor ac yn uniongyrchol gyda’r Arolygydd.

     

    Manylion Cyswllt

    Os hoffech fanylion pellach ynglŷn â’r broses Archwilio, cysylltwch â:

    Elaine T Rizzi

    Swyddog Rhaglen

    Ystafell 3

    Caledfryn

    Dinbych

    LL16 3RJ

    Ebost: swyddog.rhaglen@sirddinbych.gov.uk

    Ffôn: 01824 706991

     

    Cyfarfod Cyn Gwrandawiad

    Gynhaliwyd y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ar 8fed Tachwedd 2011 yn Neuadd y Dref y Rhyl, Ffordd Wellington, Y Rhyl, LL18 1AB.

    Pwrpas y Cyfarfod Cyn Gwrandawiad oedd esbonio a thrafod materion trefniadol a gweinyddol yn ymwneud â rheoli’r Archwiliad, gan gynnwys y materion a’r pynciau i’w harchwilio, y rhaglen ar gyfer y gwrandawiadau a’r rhai a fydd yn gwneud sylwadau, sut caiff sylwadau eu trin, yr amserlen ar gyfer cyflwyno datganiadau, ac unrhyw faterion perthnasol eraill. Ni chafodd cynnwys a haeddiannau’r Cynllun Datblygu Lleol eu trafod yn y Cyfarfod Cyn Gwrandawiad.

    Munudau y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad

    Gwrandawiadau Archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol

    Cychwynnodd y Gwrandawiadau Archwilio ar 10fed Ionawr 2012 yn Neuadd y Dref y Rhyl (sesiynau 1-4A). Gynhaliwwyd sesiynau Gwrandawiad pellach (5-19) yn Ystafelloedd 1 a 2, Caledfryn, Dinbych.

     

    Sesiynau Gwrandawiad

     

    Gynhaliwyd Cyfarfod Archwiliadol ar dydd Iau 9fed Chwefror 2012, Canolfan Ieuenctid Lôn Ganol, Lôn Ganol, Dinbych, LL16 3UW. Mae dogfennau yn berthnasol i'r cyfarfod ar gael isod.

     

    Canfyddiadau rhagarweiniol yr arolygwr

     

    Agenda (EXAM0076)

     

    HS20-DCC Ymateb Cyngor Sir Ddinbych (EXAM0075.R)

    HS20-DCC Map 1 i gyf-fynd ag ymateb Cyngor Sir Ddinbych

     

    Nodiadau o'r Cyfarfod Archwiliadol, sesiwn 20 (EXAM0084)

     

    Camau Nesaf Gyda'r Cynllun Datblygu Lleol

    Yn dilyn cais yr Arolygwr, rhedodd ymgynghoriad ar tystiolaeth ychwanegol (yn cynnwys gwybodaeth ar safle allweddol Bodelwyddan) a safleoedd potensial tai o dydd Iau 23ain Chwefror hyd at dydd Iau 19eg Ebrill 2012.

     

    Roedd yr ymgynghoriad wedi ei gyfyngu i’r rhai oedd wedi ymateb ac/neu wrthwynebu yn y gorffennol i’r safleoedd ychwanegol o dan sylw. Nid oedd yr ymgynghoriad yn gyfle i ddatgan sylwybaeth ar rhannoedd eraill o’r CDLL.

     

    MAI 2012 - SESIYNAU GWRANDAWIAD YCHWANEGOL - RHAGLEN AC AGENDÂU

    Mae sesiynau ychwanegol y gwrandawiad bellach wedi dod i ben. Nodwyd yr Arolygwr gyda'u nodyn o'r canfyddiadau cychwynnol.

     

    Cysylltiadau Defnyddiol

     

    Hawlfraint©2011
    Cyngor Sir Ddinbych

     English | Yn-ol 
    Graffig llenwi Graffig llenwi