Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau cynllunio a
gynhyrchir gan awdurdod cynllunio lleol yn atodol at y polisïau
a’r cynigion yn ei gynllun datblygu.Cyfnod Cyfranogiad:
Y cyfnod cyn y Cynllun Datblygu Lleol cyn adneuo, pan fydd
rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn cael cyfle i ddylanwadu ar y
pynciau llosg, dewisiadau a pholisïau ar gyfer twf a datblygiad
i’w cynnwys yn y cynllun.
Cynllun Cynnwys y Gymuned: Eglurhad sut a phryd y bydd
cymunedau, datblygwyr, y cyhoedd a grwpiau â diddordeb yn cael
cyfrannu i’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
Cynllun Datblygu Lleol: Cynllun statudol datblygu/defnydd
tir sy’n cynnwys polisïau a chynigion datblygu a defnydd tir
eraill. Daw’r math yma o gynllun yn lle’r Cynllun Datblygu
Unedol.
Cynllun Datblygu Lleol Adneuo: Drafft llawn o’r
Cynllun Datblygu Lleol sy’n mynd drwy gyfnod ymgynghori ffurfiol.
Cynllun Datblygu Lleol cyn adneuo: Mae’n amlinellu
amcanion cyffredinol y cynllun, y strategaeth ar gyfer twf neu
newid a’r opsiynau sy’n cael eu ffafrio o ran y prif safleoedd
datblygu.
Cynllun Datblygu Unedol: Cynllun datblygu statudol
sy’n cynnwys polisïau a chynigion ar gyfer datblygu a defnydd
tir eraill. Bydd hwn yn cael ei oresgyn gan y Cynllun Datblygu
Lleol.
Cytundeb Cyflawni: Dogfen yn nodi sut a phryd y
cynhyrchir y Cynllun Datblygu Lleol, a’r adnoddau i’w neilltuo
i’r broses. Yn cynnwys (i) amserlen a (ii) Cynllun Cynnwys y
Gymuned.
Datganiad o ddiddordeb: Sylwadau ar y cynllun datblygu,
yn cynnwys ceisiadau i newid, cynnwys neu ddileu polisïau neu
safleoedd i’w datblygu.
Mabwysiedig: Y fersiwn gyfreithiol derfynol (o’r
cynllun datblygu lleol), a gymeradwywyd yn statudol.
Rhanddeiliaid: Sefydliadau neu unigolion â diddordeb
yn neu sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y broses o
baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
Sylwadau: O blaid neu yn erbyn y Cynllun Datblygu
Lleol adneuo.
Ymchwiliad Cyhoeddus: Arolygydd diduedd yn cynnal
ymchwiliad i’r Cynllun Datblygu Lleol i sicrhau bod y cynllun
wedi’i seilio ar wybodaeth a meddylfryd gadarn.
|