Datblygiad Cynaliadwy yw’r egwyddor craidd ac amcan allweddol y
system gynllunio newydd.
Mae deddfwriaeth gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol bod y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn destun Arfarniad o
Gynaliadwyedd (AG) i gloriannu effeithiau cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol tebygol cynllunio datblygiad. Mae
deddfwriaeth Ewropeaidd a’r DG hefyd yn gofyn am Asesiad
Amgylcheddol Strategol (AAS), proses sy’n ystyried effeithio
cynllunio datblygiad ar yr amgylchedd. Mae cyfarwyddyd y
llywodraeth yn cynghori y dylid bob amser ymgymryd â’r ddwy
broses gyda’i gilydd mewn agwedd integredig fel bod y CDLl yn
destun AG sy’n ymgorffori AAS.
Pwrpas AG/AAS yw cael gwell integreiddiad amcanion
cynaliadwyedd yn ystod y gwaith o baratoi a gweithredu’r cynllun.
Lle rhagwelir effeithiau arwyddocaol, mae’r AG/AAS yn ceisio
adnabod dulliau o osgoi’r rhain neu liniaru effeithiau o’r fath.
Mae tabl cynnydd wedi ei ddrafftio i’ch galluogi chi i ddilyn
y broses.
Hyd yma rydym wedi cynhyrchu:
|
Dogfen |
Ymgynghori |
Meddalwedd |
Maint |
|
Adroddiad Cwmpasu |
4 Gorffennaf 2006 – 4 Medi 2006 (8 wythnos) |
Fformat pdf |
2.45MB |
| Sleidiau’r cyflwyniad i’r gweithdy |
1 Awst 2007 |
Microsoft Power point |
|
| Ymateb yr ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cwmpasu |
Hydref 2007 |
|
|
| Adroddiad Cwmpasu Diwygiedig |
Hydref2007 |
|
|
| Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd (yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) |
Ar gael gyda’r ddogfen Cynllun Datblygu Lleol cyn adneuo ddiwedd y Gwanwyn |
|
|
|